cyfraith jrl - Cyfreithwyr yn Llanrwst yn gwasanaethu Gogledd Cymru

Planio ystad, Profiant a Phwerau Atwrnai Parhaol gan Cyfraith JRL

Mae gennym brofiad ac arbenigedd yn y meysydd canlynol:

Planio ystad, Profiant a Phwerau Atwrnai Parhaol gan Cyfraith JRL
  • Ewyllysiau
  • Eiddo a Phwerau Parhaol Lles Personol
  • Llunio Ymddiried
  • Ymddiried Cyhoeddus
  • Gweinyddiaeth Ystadau ac Ymddiriedau gan gynnwys Ysgutoriaethau a gwasanaethau Ymddiriedau
  • Treth ar Etifeddiaeth a Threth Elwau Cyfalaf
  • Anghydfod Etifeddiaeth
  • Gofal Iechyd Y Gwasanaeth Iechyd
  • Gwarchod Asedau

Mae gan Cyfraith JRL sail gadarn o gleientydd ac mae cenedlaethau o wahanol deuluoedd yn dychwelyd at y cwmni am eu gwaith cyfreithiol.

Mae Cyfraith JRL Law yn cynnig cyngor ar faterion teulu, eiddo a phrofiant. Mae gennym enw da am ein arbenigedd mewn gwaith cleientydd preifat ac mae’r ochr yma o’n gwaith wedi ehangu’n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar. Rydym hefyd yn medru cynnig arweiniad a gwybodaeth ar ystod eang o faterion sydd o ddiddordeb i bersonau unigol a theuluoedd, gan gynnwys treth etifeddiaeth, planio ystadau, ewyllysiau, ymddiriedau ac Ystadau. Mae ein tim teulu yn cynnig cyngor perthnasol, adeiladol yn y maes sensitif hwn o’r gyfraith. Rydym hefyd ym medru delio gyda chleientydd sydd yn dioddef o niwed meddyliol.

Mae ein swyddfa yn gwasanaethu ardal Gymreig. Mae ein holl staff yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae dros 50% o’n gwaith yn cael ei ymgymeryd ar ran cleientydd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Penderfyniadau

Mae pobl yn dod yn fwyfwy pryderus am y math o wasaneth meddygol y byddant yn ei dderbyn. Ers i’r Ddeddf Gallu Meddyliol (Mental Capacity Act) 2005 ddod i rym gall person 18 a throsodd, tra’n parhau i fod yn gallu rhoi cyfarwyddiadau i ganiatau neu ymwrthod triniaeth meddygol penodol ar gyfer amser yn y dyfodol pryd y gallai’r person fod mewn sefyllfa lle na all roi’r caniatad oherwydd gallu meddyliol. Nid oes yn rhaid i benderfyniadau o’r fath fod yn ysgrifenedig HEBLAW eu bod yn gwrthod triniaeth a allay barhau eu bywyd. Gallwn gofnodi eich dymuniadau mewn ffordd a gaiff ei gydnabod gan y gyfraith.

Gall hyn gynorthwyo lleihau baich ac ansicrwydd ar gyfer perthnasau mewn sefyllfaoedd o’r fath.

Pwerau Atwrnai Parhaol

Hyd 1af Hydref 2007 roedd yn bosibl paratoi Pwer Atwrnai Parhaus. Ers 1af Hydref 2007 mae dau fath o Bwer Atwrnai Parhaol sef Pwer Atwrnai Barhaol Eiddo a Materion Ariannol a Phwer Atwrnai Parhaol Lles Personol. Gallasai nam meddyliol effeithio unrhyw un ohonom ar unrhyw amser. Nid yw bob amser yn gysylltiedig gydag oed.Gall gwneud Pwer Atwrnai Parhaol roi’r gallu i chi ddewis pwy fyddai’n delio gyda’ch eiddo ac/neu eich lles personol. Gallwch wneud y ddau o’r Pwerau Atwrnai uchod neu ond un.

Gallasai gohirio gwneud Pwer o’r fath adael materion yn rhy hwyr. Petaech yn cael damwain neu stroc, efallai na fyddai gennych y gallu meddyliol na’r gallu ffisegol i arwyddo dogfennau a delio gyda’ch gwaith papur.

Trwy wneud Pwer Atwrnai Parhaol LLes Personol neu Pwer Atwrnai Barhaol Eiddo a materion Ariannol gallwch roi awdurdod i berson yr ydych yn ymddiried ynddynt i ddelio gyda’r materion hyn yn eich lle trwy unrhyw gyfnod lle’r ydych methu gwneud hynny eich hun.

Mae ein Cyfreithwyr yn aelodau o’r Grwp Cyfreithwyr dros yr Oedrannus ac wedi eu cymwyso’n arbennig i’ch cynghori a’ch cynorthwyo mewn materion fel y rhain.

Swyddfa Gwarcheidwad y Cyhoedd

Os bydd person heb allu meddyliol ac heb baratoi Pwer Atwrnai, gallwn eich cynghori ynghylch gwneud cais i Swyddfa Gwarcheidwad y Cyhoedd a’ch cynghori a’ch cynorthwyo i drefnu apwyntio Dirprwy.

Gweinyddiad Ystadau

Pan fo perthynas hoff yn marw rydym yn wynebu un o amseroedd mwyaf anodd ein bywydau. Gall cyfrifoldeb gweinyddu ystad fod yn waith mawr. Rydym yn cynnig cymorth ymarferol sensitive i’ch cynorthwyo i weinyddu’r ystad mor ddi-drafferth ag sydd yn bosibl. Mae hyn yn bwysig i’ch gwarchod rhag broses a allasai fod yn un o boen meddwl sylweddol. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, gallwn eich sicrhau y byddwn yn delio gyda’r mater mewn modd DRWYADL, RHESYMOL a gydag URDDAS.

Ewyllysiau

Heb ewyllys, mae’r gyfraith yn penderfynu pwy ddylai ddelio gyda’ch ystad a lle y dylai fynd wedi eich marwolaeth.

Efallai na fydd hyn y bobl o’ch dewis chi os:

  • Dydych chi ddim yn briod i’ch partner – fel hyn does gan eich partner ddim hawl awtomatig i unrhyw ran o’ch ystad
  • Os yw gwerth eich ystad dros £125,000, ni fydd gan eich gwr/gwraig yr hawl i’ch holl ystad, bydd gan eich plant hawl i gyfran a gallasent orfodi gwerthiant eich ty

Mae gwneud ewyllys yn sicrhau:

  • Eich bod chi yn dewis sut mae eich eiddo yn cael eu dosbarthu
  • Gallwch leihau eich cyfrifoldeb treth
  • Gallwch ddewis pwy fydd yn gweinyddu eich ystad
  • Os yw eich plant dan 18 chi fydd yn dewis pwy fydd yn edrych ar eu holau a gofalu fod eu hanghenion ariannol yn cael eu gwarchod
  • Gallwch wneud rhoddion o arian neu eiddo i bersonau panodol neu elusennau

Eisiau Gwybod Mwy?

Cysylltwch gyda ni i drafod eich anghenion yn llawn.

Linciau Defnyddiol

Gwasanaethau eraill oddi wrth Cyfraith JRL

Mae Cyfraith JRL wedi ei lleoli yn Nyffryn Conwy, Gogledd Cymru a gallwn gynnig gwasanaethau pellach gan gynnwys:

  • Amaethyddiaeth
    Mae ein adran amaethyddiaeth yn ffurfio rhan bwysig iawn o waith y cwmni.
  • Cyfraith Fasnachol
    Rydym yn cynnig gwasanaeth llawn i’n cleientydd busnes.
  • Cyfraith Teulu
    Mae gan Cyfraith JRL brofiad helaeth ym mhob agwedd o waith teulu fel ysgariad a materion plant.
  • Cyfraith Eiddo a HIPs
    Mae Cyfraith JRL yn cynnig gwasanaeth llawn yn cynnwys Trawsgludiaeth a Phecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIPs).
  • Ymgyfreitha
    Mae ymgyfreitha hefyd yn ran bwysig o’n gwaith.
  • Cymorth Cyfreithiol
    Mae gennym gytundeb sifil gyda’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod, neu defnyddiwch ein holidadur ar lein:

Post: Cyfraith JRL, Adeiladau’r Banc, Llanrwst, Conwy, LL26 0LS
Ffôn: 01492 641222
Ffacs: 01492 641820
DX: DX 711490 Llanrwst
E-bost: Gweler ein tudalen gysylltu ar gyfer gohebiaeth e-bost

www.jrl-law.co.uk