Cyfraith JRL – Cyfreithwyr yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy, Gogledd Cymru
Mae cwmni Cyfraith JRL yn Ymarferwyr Cyffredinol wedi'i lleoli yn nhre marchnad Llanrwst yng ngogledd Cymru.

Nid ydym yn gwmni traddodiadol stryd fawr. Rydym yn gwmni sydd yn cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel iawn yn arbenig ym meysydd amaethyddiaeth, gwaith cleientydd hŷn a chyfraith fasnachol.
Mae'r Swyddfeydd yn gwasanaethu ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf. Mae'r holl staff yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg ac mae dros 50% o'r gwaith a wneir ar ran cleientydd yn cael ei wneud trwy gyfrwng Cymraeg llafar.
Mae Cyfraith JRL wedi derbyn Safon Ansawdd Buddsoddwyr mewn Pobl a Safon Ansawdd Goruchwyliaeth Lexcel gan Gymdeithas y Gyfraith. Mae Cyfraith JRL Law dan oruchwyliaeth Yr Awdurdod Rheolaeth Cyfreithwyr.
Robert Ewen Laing LLB (Hons) Nottingham
- Derbyniwyd ym 1971
- Partner Hyn
- Cyfryngwr Awdurdedig (grwp ADR)
- Derbynnydd Panel ar gyfer Y Llys Nodded
- Aelod o’r Gymdeithas Cyfraith Amaethyddiaeth
- Profiad helaeth o adfocatiaeth mewn Llysoedd Ynadon a Llysoedd Sirol, mae bellach yn arbenigo ym mhob agwedd ar gyfraith amaethyddol ac ymgyfreithio sifil
- Aelod o Grwp Goruchwylio Cymdeithas y Gyfraith
- Aelod o Adran Cyfreithwyr Profiant ac Ymddiredolaeth Cymdeithas y Gyfraith, ac o Adran Eiddo Cymdeithas y Gyfraith
- Aelod o’r Grwp Cyfreithwyr dros yr Oedrannus a gall gynghon ynglyn â Gofal Iechyd y telir amdano gan y Gwansanaeth Iechyd Cenedlaethol a chadwriaeth asedau.
- Mae’n rhugl yn y Gymraeg a Ffrangeg, yn gyfarwydd â’r Almaeneg
cyswllt : rel@jrl-law.co.uk
Gwenno Price-Jones LLB (Hons) Aberystwyth
- Derbyniwyd ym 1995, gan ymuno â’r cwmni yn 2001
- Partner
- Profiad o faterion teuluol gan gynnwys ysgariad, gwaharddebion, gweithrediadau gofal plant, anafiadau personol, a phob agwedd o waith cyfreithiol gan gynnwys gwaith Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol
- Aelod o Banel Cyfraith Teulu Cymdeithas y Gyfraith
- Aelod o’r Gymdeithas Cyfreithwyr Anafiadau Personol
- Rhugl yn y Gymraeg
cyswllt : gwenno@jrl-law.co.uk
Heledd Wyn LLB (Hons) Bristol, MA University of Wales
- Derbyniwyd yn 2006, ymunodd â’r cwmni yn 2006
- Cyfreithiwr Cyswllt
- Profiad o faterion Ewyllysiau a Phrofiant, Cynllunio Ystad a Thrawsgludiaeth Tai
- Aelod o Adran Cyfreithwyr Profiant ac Ymddiredolaeth Cymdeithas y Gyfraith, ac o Adran Eiddo Cymdeithas y Gyfraith
- Rhugl yn y Gymraeg
cyswllt : heledd@jrl-law.co.uk
Linciau Defnyddiol
Gwybodaeth Cysylltu
Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod, neu defnyddiwch ein holidadur ar lein:
Post: Cyfraith JRL, Adeiladau’r Banc, Llanrwst, Conwy, LL26 0LS
Ffôn: 01492 641222
Ffacs: 01492 641820
DX: DX 711490 Llanrwst
E-bost: Gweler ein tudalen gysylltu ar gyfer gohebiaeth e-bost
www.jrl-law.co.uk
Hawlfraint y cynnwys Cyfraith JRL, Llanrwst, Gogledd Cymru
