Eiddo
Mae gennym brofiad ac arbenigedd yn y meysydd canlynol:
- Eiddo Masnachol
- Eiddo – Preswyl
Eiddo Masnachol
Mae gennym brofiad ac arbenigedd gyda’r canlynol:
- Gwerthu
- Prynu
- Gwerthu Asedau
- Gwerthi cyfranddaliadau
- Cytyndebau cyfranddalwyr ynghylan gwestai
- Tir amaethyddol
Mae Cyfraith JRL yn ymgyneryd â gwaith trawsgwdo masnachol gan gynnwys gwerthu asedau, gwerthu cyfranddaliadau a gwaith sy’n gysylttiedig yn dadlennu a chutyndebau cyfranddaliwyr. Mae gan Cyfraith JRL Law brofiad mewn delio gyda gwerthiant a phryniant safleoedd carafan a busineau twristiaeth ac amser hamdden eraill.
Cysylltwch gyda ni i drafod eich anghenion mewn manylder.
Trawsgludiaeth Preswyl

Os ydych yn brynwr eiddo am y tro cyntaf neu’n symud tŷ, gau Cyfraith JRL eich cynorthwyo i wneud y profiad mor hawdd a phosibl.
O derbyn gwneud cynnig hyd at gwblhau, gall ein tim eich cynghori mwy gydol y broses.
- Gwerthu
- Prynu
- Ail–forgeisu
- Trosglywddo Eiddo
Cysylltwch gyda ni i drafod eich anghenion yn llawn.
Y Cyntaf yng Nghymru i gyfreithwyr Llanrwst
Cyfraith JRL Law yw’r cwmni cyfreithiol cyntaf yng Nghymru i ddod yn aelod o gynllun Safoni Cofrestru Eiddo (SCE) Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Bu’n rhaid i Cyfraith JRL Law, sydd wedi ei leoli yn Llanrwst, Dyffryn Conwy, ddilyn cynllun asesu llym gan Gymdeithas y Cyfreithwyr er mwyn derbyn statws SCE, sydd yn gosod y cwmni ar wahan am gyrraedd safonau uchel o fewn y broses o brynu a gwerthu eiddo.
Yn ôl Llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr, Linda Lee, mae’r Gymdeithas wedi cyflwyno SCE er mwyn cydnabod safonau uchel o fewn y broses o brynu tŷ ac i atal twyll yn y farchnad eiddo preswyl.
“Mae SCE yn gwella effeithlonrwydd drwy sicrhau safonau gwasanaeth cyson a chyffredin, sydd yna’n galluogi cwsmeriaid i adnabod cwmni fel JRL sydd yn darparu gwasanaeth o safon.
“Prynu tŷ yw un o’r penderfyniadau mwyaf gall rywun ei wneud yn ystod ei oes, felly mae’n hanfodol ei fod yn cael ei wneud i’r safon uchaf gan gyfreithwyr. Mae amryw o bobl yn cynnig gwasanaeth prynu a gwerthu eiddo yn y farchnad, sydd yn ei wneud yn anodd i’r sawl sy’n prynu tŷ adnabod cwmni sy’n sicrhau gwasanaeth diogel ac effeithlon.”
Dywed Robert Laing, Uwch Bartner Cyfraith JRL Law – “Rydym yn hapus iawn i dderbyn statws SCE. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r safonau uchel rydym yn darparu i’n cleientiaid sy’n prynu a gwerthu eiddo ac yn arwydd i brynwyr y dyfodol o’n safonau uchel yn ystod cyfnod sy’n aml yn peri gofid mawr i bobl.”
Y cleientiaid sy’n defnyddio Cyfraith JRL Law i prynu tŷ fydd yn elwa. Byddant yn derbyn gwasanaeth dibynadwy ac effeithiol sy’n cael ei gydnabod gan y cynllun.
Mae cynllun SCE yn mynnu bod pob cwmni’n mynd drwy asesiad llym, hyfforddiant gorfodol, hunan-asesu, arolwg ar hap ac adolygiad blynyddol. Mae’r cynllun yn agored i aelodau Cymdeithas y Cyfreithwyr yn unig ac i’r rhai hynny sydd yn cyrraedd y safon uchel ofynnol.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan y Cyngor Benthycwyr Morgeisi, y Cymdeithasau Adeiladu a Chymdeithas Yswirwyr Prydain.
Linciau Defnyddiol
Gwasanaethau eraill oddi wrth Cyfraith JRL
Mae Cyfraith JRL wedi ei lleoli yn Nyffryn Conwy, Gogledd Cymru a gallwn gynnig gwasanaethau pellach gan gynnwys:
- Amaethyddiaeth
Mae ein adran amaethyddiaeth yn ffurfio rhan bwysig iawn o waith y cwmni. - Cyfraith Fasnachol
Rydym yn cynnig gwasanaeth llawn i’n cleientydd busnes. - Trefnu Ystad, Ewyllysiau a Phrofiant
Mae gan Cyfraith JRL enw da am ei arbenigedd mewn gwaith cleientydd preifat gan gynnwys ewyllysiau, profiant a materion treth. - Cyfraith Teulu
Mae gan Cyfraith JRL brofiad helaeth ym mhob agwedd o waith teulu fel ysgariad a materion plant. - Ymgyfreitha
Mae ymgyfreitha hefyd yn ran bwysig o’n gwaith. - Cymorth Cyfreithiol
Mae gennym gytundeb sifil gyda’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.
Gwybodaeth Cysylltu
Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod, neu defnyddiwch ein holidadur ar lein:
Post: Cyfraith JRL, Adeiladau’r Banc, Llanrwst, Conwy, LL26 0LS
Ffôn: 01492 641222
Ffacs: 01492 641820
DX: DX 711490 Llanrwst
E-bost: Gweler ein tudalen gysylltu ar gyfer gohebiaeth e-bost
www.jrl-law.co.uk
Hawlfraint y cynnwys Cyfraith JRL, Llanrwst, Gogledd Cymru