cyfraith jrl - Cyfreithwyr yn Llanrwst yn gwasanaethu Gogledd Cymru

Cyfraith Teulu – Gwasanaethau Cyfreithiol oddi wrth Cyfraith JRL

Mae gennym brofiad ac arbenigedd gyda’r canlynol:

Cyfraith Teulu Gogledd Cymru
  • Ysgariad ac ymwahaniad cyfreithiol
  • Materion ariannol
  • Lles plant, gan gynnwys trefnu cyswllt a phenderfynu lle mae’r plentyn i fyw
  • Trais yn y cartref
  • Gwahanu a chytundebau cyd-fyw

Ysgariad a Gwahanu

Mae’r broses o ysgaru bellach yn weddol syml – yn enwedig os yw’r cwpl yn cytuno fod y briodas ar ben. Mae’r problemau yn dueddol o godi o geisio cytuno’r materion ymarferol cysylltiedig fel sut i wahanu, lle i fyw, trefniadau ynghylch y plant a materion ariannol. Yn Cyfraith JRL gallwn gynorthwyo gyda phob agwedd.

Materion Plant a Materion Ariannol

Gall anghydfod rhwng rhieni yngylch plant fynd ymlaen am fisoedd neu hyd yn oed blynyddoedd. Gall hyn fod yn boen meddwl i blant sydd hefyd yn gorfod dod i arfer gyda eu rhieni yn byw ar wahan. Mae hi felly yn dyngedfenol fod rhieni yn gwneud eu gorau i ddod i gytundeb ynhgylch materion cysylltiedig gyda’r planbt mor fuan ag y bo modd.

Gall Cyfraith JRL hefyd gynorthwyo gyda materion ariannol ar unrhyw amser yn ystod ysgariad neu ymwahaniad.

Eisiau Gwybod Mwy?

Cysylltwch gyda ni i drafod eich anghenion yn llawn.

Gwasanaethau eraill oddi wrth Cyfraith JRL

Mae Cyfraith JRL wedi ei lleoli yn Nyffryn Conwy, Gogledd Cymru a gallwn gynnig gwasanaethau pellach gan gynnwys:

  • Amaethyddiaeth
    Mae ein adran amaethyddiaeth yn ffurfio rhan bwysig iawn o waith y cwmni.
  • Cyfraith Fasnachol
    Rydym yn cynnig gwasanaeth llawn i’n cleientydd busnes.
  • Trefnu Ystad, Ewyllysiau a Phrofiant
    Mae gan Cyfraith JRL enw da am ei arbenigedd mewn gwaith cleientydd preifat gan gynnwys ewyllysiau, profiant a materion treth.
  • Cyfraith Eiddo a HIPs
    Mae Cyfraith JRL yn cynnig gwasanaeth llawn yn cynnwys Trawsgludiaeth a Phecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIPs).
  • Ymgyfreitha
    Mae ymgyfreitha hefyd yn ran bwysig o’n gwaith.
  • Cymorth Cyfreithiol
    Mae gennym gytundeb sifil gyda’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod, neu defnyddiwch ein holidadur ar lein:

Post: Cyfraith JRL, Adeiladau’r Banc, Llanrwst, Conwy, LL26 0LS
Ffôn: 01492 641222
Ffacs: 01492 641820
DX: DX 711490 Llanrwst
E-bost: Gweler ein tudalen gysylltu ar gyfer gohebiaeth e-bost

www.jrl-law.co.uk