Cyfraith Fasnachol – Gwasanaethau Cyfreithiol oddi wrth Cyfraith JRL
Mae Cyfraith JRL yn cynnig gwasanaeth Cyfreithiol llawn i'w cleientydd busnes.
Rydym yn dod i adnabob busnesau ein cleientydd ac yn gweithio i gyrraedd eu hanghenion masnachol twy gynnig yr arbenigedd sydd yn angenrheidiol i roi cyngor effeithiol ac ymarferol.

Mae gennym brofiad ac arbenigedd gyda’r canlynol:
- prydlesau masnachol
- cytundebau
- llunio cwmniau
- cyfraith hawliau eiddo deallusol
Mae’r cwmni yn ymgymeryd trawsgludiaeth masnachol gan gynnwys gwerthiant asedau, gwerthiant cyfranddaliadau a gwaith cysylltiedig o ran cytundebau cyfranddaliwyr ac yn y blaen. Mae gan y cwmni brofiad o ddelio gyda gwerthiant a phryniant safleoedd carafannau a busnesau twristiaeth eraill. Er y gellir ei ystyried yn debyg i waith amaethyddol, mae gan y cwmni brofiad helaeth o ddelio gyda phrynu a gwerthu eiddo amaethyddol gan unigolion, gan bartneriaethau a gan gwmniau. Mae’r cwmni hefyd yn delio gyda Cyfraith Cyflogaeth ar ran cyflogwyr ac mae’n medru cynghori ar faterion amgylcheddol a materion eraill sydd yn ymwneud gyda busnesau. Mae’r cwmni yn medru cynorthwyo gyda pharatoi cytundebau partneriaeth ac hefyd gyda llunio cwmniau cynfyngedig preifat.
Eisiau Gwybod Mwy?
Cysylltwch gyda ni i drafod eich anghenion yn llawn.
Linciau Defnyddiol
Gwasanaethau eraill oddi wrth Cyfraith JRL
Mae Cyfraith JRL wedi ei lleoli yn Nyffryn Conwy, Gogledd Cymru a gallwn gynnig gwasanaethau pellach gan gynnwys:
- Amaethyddiaeth
Mae ein adran amaethyddiaeth yn ffurfio rhan bwysig iawn o waith y cwmni. - Trefnu Ystad, Ewyllysiau a Phrofiant
Mae gan Cyfraith JRL enw da am ei arbenigedd mewn gwaith cleientydd preifat gan gynnwys ewyllysiau, profiant a materion treth. - Cyfraith Teulu
Mae gan Cyfraith JRL brofiad helaeth ym mhob agwedd o waith teulu fel ysgariad a materion plant. - Cyfraith Eiddo a HIPs
Mae Cyfraith JRL yn cynnig gwasanaeth llawn yn cynnwys Trawsgludiaeth a Phecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIPs). - Ymgyfreitha
Mae ymgyfreitha hefyd yn ran bwysig o’n gwaith. - Cymorth Cyfreithiol
Mae gennym gytundeb sifil gyda’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.
Gwybodaeth Cysylltu
Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod, neu defnyddiwch ein holidadur ar lein:
Post: Cyfraith JRL, Adeiladau’r Banc, Llanrwst, Conwy, LL26 0LS
Ffôn: 01492 641222
Ffacs: 01492 641820
DX: DX 711490 Llanrwst
E-bost: Gweler ein tudalen gysylltu ar gyfer gohebiaeth e-bost
www.jrl-law.co.uk
Hawlfraint y cynnwys Cyfraith JRL, Llanrwst, Gogledd Cymru