cyfraith jrl - Cyfreithwyr yn Llanrwst yn gwasanaethu Gogledd Cymru

Cyfraith Amaethyddol

Amaethyddiaeth yw ein Busnes

Mae ein hadran amaethyddiaeth yn Cyfraith JRL yn ffurfio rhan bwysig iawn o waith y cwmni, ac mae ganddi arbenigedd sydd wedi datblygu ymhlith Cyfreithwyr sydd â chysylltiadau cryf â’r gymdeithas ffermio neu sydd â diddordeb byw yn y diwydiant amaethyddol.

Cyfraith Amaethyddol Gogledd Cymru

Mae ein swyddfa wedi ei lleoli yn nhref farchnad Llanrwst, yng nhalon cefn gwlad amaethyddol Gogledd Cymru.

Gallwn gynnig cyngor arbenigol ar:

  • Ddaliadau amaethyddol
  • Partneriaethau ac achosion o anghydfod
  • Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP)
  • Amaethyddiaeth a bancio
  • Tribiwnlysoedd Tir Amaethyddol a hawddfreintiau amaethyddol
  • Iechyd a lles anifeiliaid
  • Llygredd dŵr a materion amgylcheddol
  • Trawsgludiaeth gan gynnwys gwaith prydlesol

Rydym yn deall pryderon ffermwyr heddiw ac yn gwybod eu bod yn ymestyn ymhell tu hwnt i stad yr amgylchedd a chyflwr y pridd.

Mae technoleg newydd, materion ecolegol a deddfwriaethau lu yn gynwysiedig yn y rhestr maith o bethau sy’n rhaid eu hystyried. I wneud hyn yn effeithlon, mae angen cyngor proffesiynol sydd yn eang, arbenigol ac yn cadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf.

Cytundebau Pori

Mae gennym brofiad helaeth mewn cynghori ar tenantiaethau fferm a materion trwyddedu a gallwn gynnig gwasanaeth cyflym, hyblyg a rhesymol.

Partneriaethau a Chwmniau

Gallwn gynnig cyngor ar gytundebau partneriaeth a chwmniau.

Mae gennym flynyddoedd o brofiad yn trafod a drafftio cytundebau a gallwn gynnig atebion cyfreithiol cyflym a rhesymol eu pris ar gyfer eich holl anghenion busnes.

Prynu a Gwerthu Ffermydd a Thir

Gall cyngor gwybodus gynyddu eich elw a hefyd gall eich hatal rhag oedi afresymol a gwastraffu amser prin trwy waith papur heb ei angen.

Mae ein ymarferyddion amaethyddol wedi datblygu enw da cryf yn y farchnad eiddo trwy gynnig gwasanaeth sydyn, hyblyg ac effeithiol.

Tenantiaethau Busnes Fferm

Rydym yn cynnig cyngor, arweiniad ac atebion cyfreithiol ar amryw o faterion yn ymwneud gyda thenantiaeth a busnes fferm yn cynnwys:

  • Tenantiaethau Busnes Fferm
  • Tenantiaethau Y Ddeddf Daliadau Amaethyddol
  • Cytundebau Pori/ Trwyddedau
  • Tenantiaethau Amaethyddol Preswyl

Trefnu Materion Treth ac Ystad

Ni ellir gor ddweud pwysigrwydd strwythuro eich busnes amaethyddol mewn ffordd sydd yn effeithiol o ran treth . Mae gennym brofiad helaeth ac arbenigedd mewn delio gyda cymlethdodau cyfreithiol treth fferm a materion o drefnu ystad a gallwn gynnig atebion rhesymol ac ymarferol a all fod o fudd i’ch busnes ffermio.

Eisiau Gwybod Mwy?

Cysylltwch gyda ni i drafod eich anghenion mewn manylder.

Linciau Defnyddiol

Gwasanaethau eraill oddi wrth Cyfraith JRL

Mae Cyfraith JRL wedi ei lleoli yn Nyffryn Conwy, Gogledd Cymru a gallwn gynnig gwasanaethau pellach gan gynnwys:

  • Cyfraith Fasnachol
    Rydym yn cynnig gwasanaeth llawn i’n cleientydd busnes.
  • Trefnu Ystad, Ewyllysiau a Phrofiant
    Mae gan Cyfraith JRL enw da am ei arbenigedd mewn gwaith cleientydd preifat gan gynnwys ewyllysiau, profiant a materion treth.
  • Cyfraith Teulu
    Mae gan Cyfraith JRL brofiad helaeth ym mhob agwedd o waith teulu fel ysgariad a materion plant.
  • Cyfraith Eiddo a HIPs
    Mae Cyfraith JRL yn cynnig gwasanaeth llawn yn cynnwys Trawsgludiaeth a Phecynnau Gwybodaeth am y Cartref (HIPs).
  • Ymgyfreitha
    Mae ymgyfreitha hefyd yn ran bwysig o’n gwaith.
  • Cymorth Cyfreithiol
    Mae gennym gytundeb sifil gyda’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.

Gwybodaeth Cysylltu

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y manylion isod, neu defnyddiwch ein holidadur ar lein:

Post: Cyfraith JRL, Adeiladau’r Banc, Llanrwst, Conwy, LL26 0LS
Ffôn: 01492 641222
Ffacs: 01492 641820
DX: DX 711490 Llanrwst
E-bost: Gweler ein tudalen gysylltu ar gyfer gohebiaeth e-bost

www.jrl-law.co.uk